11. Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, nid oes gennyt ti ddim i godi dwfr, a'r pydew sydd ddwfn: o ba le gan hynny y mae gennyt ti y dwfr bywiol hwnnw?
12. Ai mwy wyt ti na'n tad Jacob, yr hwn a roddodd i ni'r pydew, ac efe ei hun a yfodd ohono, a'i feibion, a'i anifeiliaid?
13. Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Pwy bynnag sydd yn yfed o'r dwfr hwn, efe a sycheda drachefn:
14. Ond pwy bynnag a yfo o'r dwfr a roddwyf fi iddo, ni sycheda yn dragywydd; eithr y dwfr a roddwyf iddo, a fydd ynddo yn ffynnon o ddwfr yn tarddu i fywyd tragwyddol.
15. Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, dyro i mi y dwfr hwn, fel na sychedwyf, ac na ddelwyf yma i godi dwfr.
16. Iesu a ddywedodd wrthi, Dos, galw dy ŵr, a thyred yma.
17. Y wraig a atebodd ac a ddywedodd, Nid oes gennyf ŵr. Iesu a ddywedodd wrthi, Da y dywedaist, Nid oes gennyf ŵr:
18. Canys pump o wŷr a fu i ti; a'r hwn sydd gennyt yr awron, nid yw ŵr i ti: hyn a ddywedaist yn wir.
19. Y wraig a ddywedodd wrtho ef, Arglwydd, mi a welaf mai proffwyd wyt ti.
20. Ein tadau a addolasant yn y mynydd hwn; ac yr ydych chwi yn dywedyd mai yn Jerwsalem y mae'r man lle y mae yn rhaid addoli.
21. Iesu a ddywedodd wrthi hi, O wraig, cred fi, y mae'r awr yn dyfod, pryd nad addoloch y Tad, nac yn y mynydd hwn, nac yn Jerwsalem.
22. Chwychwi ydych yn addoli'r peth ni wyddoch: ninnau ydym yn addoli'r peth a wyddom: canys iachawdwriaeth sydd o'r Iddewon.
23. Ond dyfod y mae'r awr, ac yn awr y mae hi, pan addolo'r gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd: canys y cyfryw y mae'r Tad yn eu ceisio i'w addoli ef.
24. Ysbryd yw Duw; a rhaid i'r rhai a'i haddolant ef, addoli mewn ysbryd a gwirionedd.
25. Y wraig a ddywedodd wrtho, Mi a wn fod y Meseias yn dyfod, yr hwn a elwir Crist: pan ddelo hwnnw, efe a fynega i ni bob peth.