30. Hwn yw efe am yr hwn y dywedais i, Ar fy ôl i y mae gŵr yn dyfod, yr hwn a aeth o'm blaen i: canys yr oedd efe o'm blaen i.
31. Ac myfi nid adwaenwn ef: eithr fel yr amlygid ef i Israel, i hynny y deuthum i, gan fedyddio â dwfr.
32. Ac Ioan a dystiolaethodd, gan ddywedyd, Mi a welais yr Ysbryd yn disgyn megis colomen, o'r nef, ac efe a arhosodd arno ef.
33. A myfi nid adwaenwn ef; eithr yr hwn a'm hanfonodd i fedyddio â dwfr, efe a ddywedodd wrthyf, Ar yr hwn y gwelych yr Ysbryd yn disgyn, ac yn aros arno, hwnnw yw'r un sydd yn bedyddio â'r Ysbryd Glân.
34. A mi a welais, ac a dystiolaethais mai hwn yw Mab Duw.
35. Trannoeth drachefn y safodd Ioan, a dau o'i ddisgyblion:
36. A chan edrych ar yr Iesu yn rhodio, efe a ddywedodd, Wele Oen Duw.
37. A'r ddau ddisgybl a'i clywsant ef yn llefaru, ac a ganlynasant yr Iesu.
38. Yna yr Iesu a droes; a phan welodd hwynt yn canlyn, efe a ddywedodd wrthynt, Beth yr ydych chwi yn ei geisio? A hwy a ddywedasant wrtho ef, Rabbi, (yr hyn o'i gyfieithu yw, Athro,) pa le yr wyt ti yn trigo?
39. Efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch, a gwelwch. A hwy a ddaethant, ac a welsant lle yr oedd efe yn trigo, ac a arosasant gydag ef y diwrnod hwnnw: ac yr oedd hi ynghylch y ddegfed awr.
40. Andreas, brawd Simon Pedr, oedd un o'r ddau a glywsent hynny gan Ioan, ac a'i dilynasent ef.
41. Hwn yn gyntaf a gafodd ei frawd ei hun Simon, ac a ddywedodd wrtho, Nyni a gawsom y Meseias; yr hyn o'i ddeongl yw, Y Crist.
42. Ac efe a'i dug ef at yr Iesu. A'r Iesu wedi edrych arno ef, a ddywedodd, Ti yw Simon mab Jona: ti a elwir Ceffas, yr hwn a gyfieithir, Carreg.
43. Trannoeth yr ewyllysiodd yr Iesu fyned allan i Galilea; ac efe a gafodd Philip, ac a ddywedodd wrtho, Dilyn fi.
44. A Philip oedd o Fethsaida, o ddinas Andreas a Phedr.
45. Philip a gafodd Nathanael, ac a ddywedodd wrtho, Cawsom yr hwn yr ysgrifennodd Moses yn y gyfraith, a'r proffwydi, amdano, Iesu o Nasareth, mab Joseff.