9. Gydag Onesimus, y ffyddlon a'r annwyl frawd, yr hwn sydd ohonoch chwi. Hwy a hysbysant i chwi bob peth a wneir yma.
10. Y mae Aristarchus, fy nghyd‐garcharor, yn eich annerch; a Marc, nai Barnabas fab ei chwaer, (am yr hwn y derbyniasoch orchmynion: os daw efe atoch, derbyniwch ef;)
11. A Jesus, yr hwn a elwir Jwstus, y rhai ydynt o'r enwaediad. Y rhai hyn yn unig yw fy nghyd‐weithwyr i deyrnas Dduw, y rhai a fuant yn gysur i mi.
12. Y mae Epaffras, yr hwn sydd ohonoch, gwas Crist, yn eich annerch, gan ymdrechu yn wastadol drosoch mewn gweddïau, ar i chwi sefyll yn berffaith ac yn gyflawn yng nghwbl o ewyllys Duw.
13. Canys yr ydwyf yn dyst iddo, fod ganddo sêl mawr trosoch chwi, a'r rhai o Laodicea, a'r rhai o Hierapolis.
14. Y mae Luc y ffisigwr annwyl, a Demas, yn eich annerch.