4. A phan welodd y barbariaid y bwystfil yng nghrog wrth ei law ef, hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Yn sicr llawruddiog yw'r dyn hwn, yr hwn, er ei ddianc o'r môr, ni adawodd dialedd iddo fyw.
5. Ac efe a ysgydwodd y bwystfil i'r tân, ac ni oddefodd ddim niwed.
6. Ond yr oeddynt hwy yn disgwyl iddo ef chwyddo, neu syrthio yn ddisymwth yn farw. Eithr wedi iddynt hir ddisgwyl, a gweled nad oedd dim niwed yn digwydd iddo, hwy a newidiasant eu meddwl, ac a ddywedasant mai duw oedd efe.
7. Ynghylch y man hwnnw yr oedd tiroedd i bennaeth yr ynys, a'i enw Publius, yr hwn a'n derbyniodd ni, ac a'n lletyodd dridiau yn garedig.
8. A digwyddodd, fod tad Publius yn gorwedd yn glaf o gryd a gwaedlif: at yr hwn wedi i Paul fyned i mewn, a gweddïo, efe a ddododd ei ddwylo arno ef, ac a'i hiachaodd.
9. Felly wedi gwneuthur hyn, y lleill hefyd y rhai oedd â heintiau arnynt yn yr ynys, a ddaethant ato, ac a iachawyd:
10. Y rhai hefyd a'n parchasant ni â llawer o urddas; a phan oeddem yn ymadael, hwy a'n llwythasant ni â phethau angenrheidiol.
11. Ac wedi tri mis, yr aethom ymaith mewn llong o Alexandria, yr hon a aeafasai yn yr ynys; a'i harwydd hi oedd Castor a Pholux.
12. Ac wedi ein dyfod i Syracusa, ni a drigasom yno dridiau.
13. Ac oddi yno, wedi myned oddi amgylch, ni a ddaethom i Regium. Ac ar ôl un diwrnod y deheuwynt a chwythodd, ac ni a ddaethom yr ail dydd i Puteoli:
14. Lle y cawsom frodyr, ac y dymunwyd arnom aros gyda hwynt saith niwrnod: ac felly ni a ddaethom i Rufain.
15. Ac oddi yno, pan glybu'r brodyr amdanom, hwy a ddaethant i'n cyfarfod ni hyd Appii‐fforum, a'r Tair Tafarn: y rhai pan welodd Paul, efe a ddiolchodd i Dduw, ac a gymerodd gysur.
16. Eithr pan ddaethom i Rufain, y canwriad a roddes y carcharorion at ben‐capten y llu; eithr cenhadwyd i Paul aros wrtho ei hun, gyda milwr oedd yn ei gadw ef.
17. A digwyddodd, ar ôl tridiau, alw o Paul ynghyd y rhai oedd bennaf o'r Iddewon. Ac wedi iddynt ddyfod ynghyd, efe a ddywedodd wrthynt, Ha wŷr frodyr, er na wneuthum i ddim yn erbyn y bobl, na defodau y tadau, eto mi a roddwyd yn garcharor o Jerwsalem i ddwylo'r Rhufeinwyr.