A digwyddodd, ar ôl tridiau, alw o Paul ynghyd y rhai oedd bennaf o'r Iddewon. Ac wedi iddynt ddyfod ynghyd, efe a ddywedodd wrthynt, Ha wŷr frodyr, er na wneuthum i ddim yn erbyn y bobl, na defodau y tadau, eto mi a roddwyd yn garcharor o Jerwsalem i ddwylo'r Rhufeinwyr.