22. Ai Hebreaid ydynt hwy? felly finnau: ai Israeliaid ydynt hwy? felly finnau: ai had Abraham ydynt hwy? felly finnau.
23. Ai gweinidogion Crist ydynt hwy? (yr ydwyf yn dywedyd yn ffôl,) mwy wyf fi; mewn blinderau yn helaethach, mewn gwialenodiau dros fesur, mewn carcharau yn amlach, mewn marwolaethau yn fynych.
24. Gan yr Iddewon bumwaith y derbyniais ddeugain gwialennod ond un.
25. Tair gwaith y'm curwyd â gwiail; unwaith y'm llabyddiwyd; teirgwaith y torrodd llong arnaf; noswaith a diwrnod y bûm yn y dyfnfor;
26. Mewn teithiau yn fynych; ym mheryglon llifddyfroedd; ym mheryglon lladron; ym mheryglon gan fy nghenedl fy hun; ym mheryglon gan y cenhedloedd; ym mheryglon yn y ddinas; ym mheryglon yn yr anialwch; ym mheryglon ar y môr; ym mheryglon ymhlith brodyr gau:
27. Mewn llafur a lludded; mewn anhunedd yn fynych; mewn newyn a syched; mewn ymprydiau yn fynych; mewn annwyd a noethni.
28. Heblaw'r pethau sydd yn digwydd oddi allan, yr ymosod yr hwn sydd arnaf beunydd, y gofal dros yr holl eglwysi.
29. Pwy sydd wan, nad wyf finnau wan? pwy a dramgwyddir, nad wyf finnau yn llosgi?
30. Os rhaid ymffrostio, mi a ymffrostiaf am y pethau sydd yn perthyn i'm gwendid.
31. Duw a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist, yr hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd, a ŵyr nad wyf yn dywedyd celwydd.
32. Yn Namascus, y llywydd dan Aretus y brenin a wyliodd ddinas y Damasciaid, gan ewyllysio fy nal i:
33. A thrwy ffenestr mewn basged y'm gollyngwyd ar hyd y mur, ac y dihengais o'i ddwylo ef.