3. Od oes neb yn dysgu yn amgenach, ac heb gytuno ag iachus eiriau ein Harglwydd Iesu Grist, ac â'r athrawiaeth sydd yn ôl duwioldeb;
4. Chwyddo y mae, heb wybod dim, eithr amhwyllo ynghylch cwestiynau, ac ymryson ynghylch geiriau; o'r rhai y mae cenfigen, ymryson, cableddau, drwg dybiau, yn dyfod,
5. Cyndyn ddadlau dynion llygredig eu meddwl, heb fod y gwirionedd ganddynt, yn tybied mai elw yw duwioldeb: cilia oddi wrth y cyfryw.
6. Ond elw mawr yw duwioldeb gyda bodlonrwydd.
7. Canys ni ddygasom ni ddim i'r byd, ac eglur yw na allwn ddwyn dim allan chwaith.
8. Ac o bydd gennym ymborth a dillad, ymfodlonwn ar hynny.
9. Ond y rhai sydd yn ewyllysio ymgyfoethogi, sydd yn syrthio i brofedigaeth a magl, a llawer o chwantau ynfyd a niweidiol, y rhai sydd yn boddi dynion i ddinistr a cholledigaeth.
10. Canys gwreiddyn pob drwg yw ariangarwch: yr hon, a rhai yn chwannog iddi, hwy a gyfeiliornasant oddi wrth y ffydd, ac a'u gwanasant eu hunain â llawer o ofidiau.
11. Eithr tydi, gŵr Duw, gochel y pethau hyn; a dilyn gyfiawnder, duwioldeb, ffydd, cariad, amynedd, addfwyndra.
12. Ymdrecha hardd‐deg ymdrech y ffydd; cymer afael ar y bywyd tragwyddol; i'r hwn hefyd y'th alwyd, ac y proffesaist broffes dda gerbron llawer o dystion.
13. Yr ydwyf yn gorchymyn i ti gerbron Duw, yr hwn sydd yn bywhau pob peth, a cherbron Crist Iesu, yr hwn dan Pontius Peilat a dystiodd broffes dda;
14. Gadw ohonot y gorchymyn hwn yn ddifeius, yn ddiargyhoedd, hyd ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist:
15. Yr hwn yn ei amserau priod a ddengys y bendigedig a'r unig Bennaeth, Brenin y brenhinoedd, ac Arglwydd yr arglwyddi;