1. Cynghori yr ydwyf am hynny, ymlaen pob peth, fod ymbiliau, gweddïau, deisyfiadau, a thalu diolch, dros bob dyn;
2. Dros frenhinoedd, a phawb sydd mewn goruchafiaeth; fel y gallom ni fyw yn llonydd ac yn heddychol mewn pob duwioldeb ac onestrwydd.
3. Canys hyn sydd dda a chymeradwy gerbron Duw ein Ceidwad;