6. Ymddarostyngwch gan hynny dan alluog law Duw, fel y'ch dyrchafo mewn amser cyfaddas:
7. Gan fwrw eich holl ofal arno ef; canys y mae efe yn gofalu drosoch chwi.
8. Byddwch sobr, gwyliwch: oblegid y mae eich gwrthwynebwr diafol, megis llew rhuadwy, yn rhodio oddi amgylch, gan geisio'r neb a allo ei lyncu.
9. Yr hwn gwrthwynebwch yn gadarn yn y ffydd; gan wybod bod yn cyflawni'r un blinderau yn eich brodyr y rhai sydd yn y byd.
10. A Duw pob gras, yr hwn a'ch galwodd chwi i'w dragwyddol ogoniant trwy Grist Iesu, wedi i chwi ddioddef ychydig, a'ch perffeithio chwi, a'ch cadarnhao, a'ch cryfhao, a'ch sefydlo.
11. Iddo ef y byddo'r gogoniant a'r gallu yn oes oesoedd. Amen.
12. Gyda Silfanus, brawd ffyddlon i chwi, fel yr wyf yn tybied, yr ysgrifennais ar ychydig eiriau, gan gynghori, a thystiolaethu mai gwir ras Duw yw'r hwn yr ydych yn sefyll ynddo.
13. Y mae'r eglwys sydd ym Mabilon, yn gydetholedig â chwi, yn eich annerch; a Marc, fy mab i.