9. Eithr oni allant ymgadw, priodant: canys gwell yw priodi nag ymlosgi.
10. Ac i'r rhai a briodwyd yr ydwyf yn gorchymyn, nid myfi chwaith, ond yr Arglwydd, Nad ymadawo gwraig oddi wrth ei gŵr:
11. Ac os ymedy hi, arhoed heb briodi, neu, cymoder hi â'i gŵr: ac na ollynged y gŵr ei wraig ymaith.
12. Ac wrth y lleill, dywedyd yr wyf fi, nid yr Arglwydd, Os bydd i un brawd wraig ddi‐gred, a hithau yn fodlon i drigo gydag ef, na ollynged hi ymaith.
13. A'r wraig, yr hon y mae iddi ŵr di‐gred, ac yntau yn fodlon i drigo gyda hi, na wrthoded hi ef.
14. Canys y gŵr di‐gred a sancteiddir trwy'r wraig, a'r wraig ddi‐gred a sancteiddir trwy'r gŵr: pe amgen, aflan yn ddiau fyddai eich plant; eithr yn awr sanctaidd ydynt.
15. Eithr os yr anghredadun a ymedy, ymadawed. Nid yw'r brawd neu'r chwaer gaeth yn y cyfryw bethau; eithr Duw a'n galwodd ni i heddwch.
16. Canys beth a wyddost ti, wraig, a gedwi di dy ŵr? a pheth a wyddost tithau, ŵr, a gedwi di dy wraig?
17. Ond megis y darfu i Dduw rannu i bob un, megis y darfu i'r Arglwydd alw pob un, felly rhodied. Ac fel hyn yr wyf yn ordeinio yn yr eglwysi oll.
18. A alwyd neb wedi ei enwaedu? nac adgeisied ddienwaediad. A alwyd neb mewn dienwaediad? nac enwaeder arno.
19. Enwaediad nid yw ddim, a dienwaediad nid yw ddim, ond cadw gorchmynion Duw.
20. Pob un yn yr alwedigaeth y galwyd ef, yn honno arhosed.
21. Ai yn was y'th alwyd? na fydded gwaeth gennyt; eto os gelli gael bod yn rhydd, mwynha hynny yn hytrach.
22. Canys yr hwn, ac ef yn was, a alwyd yn yr Arglwydd, gŵr rhydd i'r Arglwydd ydyw: a'r un ffunud yr hwn, ac efe yn ŵr rhydd, a alwyd, gwas i Grist yw.
23. Er gwerth y'ch prynwyd; na fyddwch weision dynion.
24. Yn yr hyn y galwyd pob un, frodyr, yn hynny arhosed gyda Duw.
25. Eithr am wyryfon, nid oes gennyf orchymyn yr Arglwydd: ond barn yr ydwyf yn ei roi, fel un a gafodd drugaredd gan yr Arglwydd i fod yn ffyddlon.