1. Arglwydd fy Nuw, ynot yr ymddiriedais: achub fi rhag fy holl erlidwyr, a gwared fi.
2. Rhag iddo larpio fy enaid fel llew, gan ei rwygo, pryd na byddo gwaredydd.
3. O Arglwydd fy Nuw, os gwneuthum hyn; od oes anwiredd yn fy nwylo;
4. O thelais ddrwg i'r neb oedd heddychol â mi, (ie, mi a waredais yr hwn sydd elyn i mi heb achos;)
5. Erlidied y gelyn fy enaid, a goddiwedded: sathred hefyd fy mywyd i'r llawr, a gosoded fy ngogoniant yn y llwch. Sela.
6. Cyfod, Arglwydd, yn dy ddicllonedd, ymddyrcha, oherwydd llid fy ngelynion: deffro hefyd drosof i'r farn a orchmynnaist.
7. Felly cynulleidfa y bobloedd a'th amgylchynant: er eu mwyn dychwel dithau i'r uchelder.