9. Dinistria, O Arglwydd, a gwahan eu tafodau: canys gwelais drawster a chynnen yn y ddinas.
10. Dydd a nos yr amgylchant hi ar ei muriau: ac y mae anwiredd a blinder yn ei chanol hi.
11. Anwireddau sydd yn ei chanol hi; ac ni chilia twyll a dichell o'i heolydd hi.
12. Canys nid gelyn a'm difenwodd; yna y dioddefaswn: nid fy nghasddyn a ymfawrygodd i'm herbyn; yna mi a ymguddiaswn rhagddo ef:
13. Eithr tydi, ddyn, fy nghydradd, fy fforddwr, a'm cydnabod,
14. Y rhai oedd felys gennym gydgyfrinachu, ac a rodiasom i dŷ Dduw ynghyd.
15. Rhuthred marwolaeth arnynt, a disgynnant i uffern yn fyw: canys drygioni sydd yn eu cartref, ac yn eu mysg.
16. Myfi a waeddaf ar Dduw; a'r Arglwydd a'm hachub i.
17. Hwyr a bore, a hanner dydd, y gweddïaf, a byddaf daer: ac efe a glyw fy lleferydd.
18. Efe a waredodd fy enaid mewn heddwch oddi wrth y rhyfel oedd i'm herbyn: canys yr oedd llawer gyda mi.
19. Duw a glyw, ac a'u darostwng hwynt, yr hwn sydd yn aros erioed: Sela: am nad oes gyfnewidiau iddynt, am hynny nid ofnant Dduw.
20. Efe a estynnodd ei law yn erbyn y rhai oedd heddychlon ag ef: efe a dorrodd ei gyfamod.
21. Llyfnach oedd ei enau nag ymenyn, a rhyfel yn ei galon: tynerach oedd ei eiriau nag olew, a hwynt yn gleddyfau noethion.
22. Bwrw dy faich ar yr Arglwydd, ac efe a'th gynnal di: ni ad i'r cyfiawn ysgogi byth.
23. Tithau, Dduw, a'u disgynni hwynt i bydew dinistr: gwŷr gwaedlyd a thwyllodrus ni byddant byw hanner eu dyddiau; ond myfi a obeithiaf ynot ti.