1. Gwrando fy ngweddi, O Dduw; ac nac ymguddia rhag fy neisyfiad.
2. Gwrando arnaf, ac erglyw fi: cwynfan yr ydwyf yn fy ngweddi, a thuchan,
3. Gan lais y gelyn, gan orthrymder yr annuwiol: oherwydd y maent yn bwrw anwiredd arnaf, ac yn fy nghasáu yn llidiog.
4. Fy nghalon a ofidia o'm mewn: ac ofn angau a syrthiodd arnaf.