1. Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy enaid amdanat ti, O Dduw.
2. Sychedig yw fy enaid am Dduw, am y Duw byw: pa bryd y deuaf ac yr ymddangosaf gerbron Duw?
3. Fy nagrau oedd fwyd i mi ddydd a nos, tra dywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy Dduw?
4. Tywalltwn fy enaid ynof, pan gofiwn hynny: canys aethwn gyda'r gynulleidfa, cerddwn gyda hwynt i dŷ Dduw, mewn sain cân a moliant, fel tyrfa yn cadw gŵyl.
5. Paham, fy enaid, y'th ddarostyngir, ac yr ymderfysgi ynof? gobeithia yn Nuw: oblegid moliannaf ef eto, am iachawdwriaeth ei wynepryd.
6. Fy Nuw, fy enaid a ymddarostwng ynof: am hynny y cofiaf di, o dir yr Iorddonen, a'r Hermoniaid, o fryn Misar.
7. Dyfnder a eilw ar ddyfnder, wrth sŵn dy bistylloedd di: dy holl donnau a'th lifeiriaint a aethant drosof fi,
8. Eto yr Arglwydd a orchymyn ei drugaredd liw dydd, a'i gân fydd gyda mi liw nos; sef gweddi ar Dduw fy einioes.