3. Yr Arglwydd a'i nertha ef ar ei glaf wely: cyweiri ei holl wely ef yn ei glefyd.
4. Mi a ddywedais, Arglwydd, trugarha wrthyf: iachâ fy enaid; canys pechais i'th erbyn.
5. Fy ngelynion a lefarant ddrwg amdanaf, gan ddywedyd, Pa bryd y bydd efe farw, ac y derfydd am ei enw ef?
6. Ac os daw i'm hedrych, efe a ddywed gelwydd; ei galon a gasgl ati anwiredd: pan êl allan, efe a'i traetha.
7. Fy holl gaseion a gydhustyngant i'm herbyn: yn fy erbyn y dychmygant ddrwg i mi.
8. Aflwydd, meddant, a lŷn wrtho: a chan ei fod yn gorwedd, ni chyfyd mwy.
9. Hefyd y gŵr oedd annwyl gennyf, yr hwn yr ymddiriedais iddo, ac a fwytaodd fy mara, a ddyrchafodd ei sawdl i'm herbyn.
10. Eithr ti, Arglwydd, trugarha wrthyf; a chyfod fi, fel y talwyf iddynt.