5. Canys yn y dydd blin y'm cuddia o fewn ei babell: yn nirgelfa ei babell y'm cuddia; ar graig y'm cyfyd i.
6. Ac yn awr y dyrcha efe fy mhen goruwch fy ngelynion o'm hamgylch: am hynny yr aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd; canaf, ie, canmolaf yr Arglwydd.
7. Clyw, O Arglwydd, fy lleferydd pan lefwyf: trugarha hefyd wrthyf, a gwrando arnaf.
8. Pan ddywedaist, Ceisiwch fy wyneb; fy nghalon a ddywedodd wrthyt, Dy wyneb a geisiaf, O Arglwydd.
9. Na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; na fwrw ymaith dy was mewn soriant: fy nghymorth fuost; na ad fi, ac na wrthod fi, O Dduw fy iachawdwriaeth.
10. Pan yw fy nhad a'm mam yn fy ngwrthod, yr Arglwydd a'm derbyn.
11. Dysg i mi dy ffordd, Arglwydd, ac arwain fi ar hyd llwybrau uniondeb, oherwydd fy ngelynion.
12. Na ddyro fi i fyny i ewyllys fy ngelynion: canys gau dystion, a rhai a adroddant drawster, a gyfodasant i'm herbyn.
13. Diffygiaswn, pe na chredaswn weled daioni yr Arglwydd yn nhir y rhai byw.
14. Disgwyl wrth yr Arglwydd: ymwrola, ac efe a nertha dy galon: disgwyl, meddaf, wrth yr Arglwydd.