63. Cyfaill ydwyf fi i'r rhai oll a'th ofnant, ac i'r rhai a gadwant dy orchmynion.
64. Llawn yw y ddaear o'th drugaredd, O Arglwydd: dysg i mi dy ddeddfau.
65. Gwnaethost yn dda â'th was, O Arglwydd, yn ôl dy air.
66. Dysg i mi iawn ddeall a gwybodaeth: oherwydd dy orchmynion di a gredais.
67. Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni: ond yn awr cedwais dy air di.
68. Da ydwyt, a daionus: dysg i mi dy ddeddfau.
69. Y beilchion a glytiasant gelwydd i'm herbyn; minnau a gadwaf dy orchmynion â'm holl galon.
70. Cyn frased â'r bloneg yw eu calon: minnau a ymddigrifais yn dy gyfraith di.
71. Da yw i mi fy nghystuddio; fel y dysgwn dy ddeddfau.
72. Gwell i mi gyfraith dy enau, na miloedd o aur ac arian.
73. Dy ddwylo a'm gwnaethant, ac a'm lluniasant: pâr i mi ddeall, fel y dysgwyf dy orchmynion.