23. Tywysogion hefyd a eisteddasant, ac a ddywedasant i'm herbyn: dy was dithau a fyfyriai yn dy ddeddfau.
24. A'th dystiolaethau oeddynt fy hyfrydwch a'm cynghorwyr.
25. Glynodd fy enaid wrth y llwch: bywha fi yn ôl dy air.
26. Fy ffyrdd a fynegais, a gwrandewaist fi: dysg i mi dy ddeddfau.
27. Gwna i mi ddeall ffordd dy orchmynion; a mi a fyfyriaf yn dy ryfeddodau.
28. Diferodd fy enaid gan ofid: nertha fi yn ôl dy air.
29. Cymer oddi wrthyf ffordd y celwydd; ac yn raslon dod i mi dy gyfraith.
30. Dewisais ffordd gwirionedd: gosodais dy farnedigaethau o'm blaen.
31. Glynais wrth dy dystiolaethau: O Arglwydd, na'm gwaradwydda.
32. Ffordd dy orchmynion a redaf, pan ehangech fy nghalon.
33. Dysg i mi, O Arglwydd, ffordd dy ddeddfau, a chadwaf hi hyd y diwedd.
34. Gwna i mi ddeall, a chadwaf dy gyfraith; ie, cadwaf hi â'm holl galon.