3. Dyweded tŷ Aaron yn awr, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.
4. Yn awr dyweded y rhai a ofnant yr Arglwydd, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.
5. Mewn ing y gelwais ar yr Arglwydd; yr Arglwydd a'm clybu, ac a'm gosododd mewn ehangder.
6. Yr Arglwydd sydd gyda mi, nid ofnaf: beth a wna dyn i mi?
7. Yr Arglwydd sydd gyda mi ymhlith fy nghynorthwywyr: am hynny y caf weled fy ewyllys ar fy nghaseion.
8. Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd, nag ymddiried mewn dyn.
9. Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd, nag ymddiried mewn tywysogion.