2. Felly dyweded gwaredigion yr Arglwydd, y rhai a waredodd efe o law y gelyn;
3. Ac a gasglodd efe o'r tiroedd, o'r dwyrain, ac o'r gorllewin, o'r gogledd, ac o'r deau.
4. Crwydrasant yn yr anialwch mewn ffordd ddisathr, heb gael dinas i aros ynddi:
5. Yn newynog ac yn sychedig, eu henaid a lewygodd ynddynt.
6. Yna y llefasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a'u gwaredodd o'u gorthrymderau;
7. Ac a'u tywysodd hwynt ar hyd y ffordd uniawn, i fyned i ddinas gyfanheddol.
8. O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion!
9. Canys efe a ddiwalla yr enaid sychedig, ac a leinw yr enaid newynog â daioni.
10. Y rhai a breswyliant yn y tywyllwch a chysgod angau, yn rhwym mewn cystudd a haearn:
11. Oherwydd anufuddhau ohonynt eiriau Duw, a dirmygu cyngor y Goruchaf.