32. Llidiasant ef hefyd wrth ddyfroedd y gynnen; fel y bu ddrwg i Moses o'u plegid hwynt:
33. Oherwydd cythruddo ohonynt ei ysbryd ef, fel y camddywedodd â'i wefusau.
34. Ni ddinistriasant y bobloedd, am y rhai y dywedasai yr Arglwydd wrthynt:
35. Eithr ymgymysgasant â'r cenhedloedd; a dysgasant eu gweithredoedd hwynt:
36. A gwasanaethasant eu delwau hwynt; y rhai a fu yn fagl iddynt.
37. Aberthasant hefyd eu meibion a'u merched i gythreuliaid,
38. Ac a dywalltasant waed gwirion, sef gwaed eu meibion a'u merched, y rhai a aberthasant i ddelwau Canaan: a'r tir a halogwyd â gwaed.
39. Felly yr ymhalogasant yn eu gweithredoedd eu hun, ac y puteiniasant gyda'u dychmygion.
40. Am hynny y cyneuodd dig yr Arglwydd yn erbyn ei bobl, fel y ffieiddiodd efe ei etifeddiaeth.
41. Ac efe a'u rhoddes hwynt yn llaw y cenhedloedd; a'u caseion a lywodraethasant arnynt.
42. Eu gelynion hefyd a'u gorthrymasant; a darostyngwyd hwynt dan eu dwylo hwy.
43. Llawer gwaith y gwaredodd efe hwynt; hwythau a'i digiasant ef â'u cyngor eu hun, a hwy a wanychwyd am eu hanwiredd.
44. Eto efe a edrychodd pan oedd ing arnynt, pan glywodd eu llefain hwynt.
45. Ac efe a gofiodd ei gyfamod â hwynt, ac a edifarhaodd yn ôl lluosowgrwydd ei drugareddau:
46. Ac a wnaeth iddynt gael trugaredd gan y rhai oll a'u caethiwai.
47. Achub ni, O Arglwydd ein Duw, a chynnull ni o blith y cenhedloedd, i glodfori dy enw sanctaidd, ac i orfoleddu yn dy foliant.
48. Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel erioed ac yn dragywydd: a dyweded yr holl bobl, Amen. Molwch yr Arglwydd.