5. Yntau ni welodd mo'r haul, ac ni wybu ddim: mwy o lonyddwch sydd i hwn nag i'r llall.
6. Pe byddai efe fyw ddwy fil o flynyddoedd, eto ni welodd efe ddaioni: onid i'r un lle yr â pawb?
7. Holl lafur dyn sydd dros ei enau, ac eto ni ddiwellir ei enaid ef.
8. Canys pa ragoriaeth sydd i'r doeth mwy nag i'r annoeth? beth sydd i'r tlawd a fedr rodio gerbron y rhai byw?
9. Gwell yw golwg y llygaid nag ymdaith yr enaid. Hyn hefyd sydd wagedd a gorthrymder ysbryd.
10. Beth bynnag fu, y mae enw arno; ac y mae yn hysbys mai dyn yw efe: ac ni ddichon efe ymryson â'r neb sydd drech nag ef.
11. Gan fod llawer o bethau yn amlhau gwagedd, beth yw dyn well?
12. Canys pwy a ŵyr beth sydd dda i ddyn yn y bywyd hwn holl ddyddiau ei fywyd ofer, y rhai a dreulia efe fel cysgod? canys pwy a ddengys i ddyn beth a ddigwydd ar ei ôl ef dan yr haul?