14. A'r gwragedd a ddywedasant wrth Naomi, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn ni'th adawodd di heb gyfathrachwr heddiw, fel y gelwid ei enw ef yn Israel.
15. Ac efe fydd i ti yn adferwr einioes, ac yn ymgeleddwr i'th benwynni: canys dy waudd, yr hon a'th gâr di, a blantodd iddo ef, a hon sydd well i ti na saith o feibion.
16. A Naomi a gymerth y plentyn, ac a'i gosododd ef yn ei mynwes, ac a fu famaeth iddo.
17. A'i chymdogesau a roddasant iddo enw, gan ddywedyd, Ganwyd mab i Naomi; ac a alwasant ei enw ef Obed: hwn oedd dad Jesse, tad Dafydd.
18. Dyma genedlaethau Phares: Phares a genhedlodd Hesron,
19. A Hesron a genhedlodd Ram, a Ram a genhedlodd Aminadab,
20. Ac Aminadab a genhedlodd Nahson, a Nahson a genhedlodd Salmon,
21. A Salmon a genhedlodd Boas, a Boas a genhedlodd Obed,
22. Ac Obed a genhedlodd Jesse, a Jesse a genhedlodd Dafydd.