72. Ar yr unfed dydd ar ddeg yr offrymodd Pagiel mab Ocran, tywysog meibion Aser.
73. Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn o beilliaid ill dwyoedd wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm:
74. Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth:
75. Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:
76. Un bwch geifr yn bech‐aberth:
77. Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Pagiel mab Ocran.
78. Ar y deuddegfed dydd yr offrymodd Ahira mab Enan, tywysog meibion Nafftali.
79. Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm:
80. Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth:
81. Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:
82. Un bwch geifr yn bech‐aberth: