6. Nesâ lwyth Lefi, a gwna iddo sefyll gerbron Aaron yr offeiriad, fel y gwasanaethont ef.
7. A hwy a gadwant ei gadwraeth ef, a chadwraeth yr holl gynulleidfa, o flaen pabell y cyfarfod, i wneuthur gwasanaeth y tabernacl.
8. A chadwant holl ddodrefn pabell y cyfarfod, a chadwraeth meibion Israel, i wasanaethu gwasanaeth y tabernacl.
9. A thi a roddi'r Lefiaid i Aaron, ac i'w feibion: y rhai hyn sydd wedi eu rhoddi yn rhodd iddo ef o feibion Israel.
10. Ac urdda di Aaron a'i feibion i gadw eu hoffeiriadaeth: a'r dieithrddyn a ddelo yn agos, a roddir i farw.
11. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
12. Ac wele, mi a gymerais y Lefiaid o blith meibion Israel, yn lle pob cyntaf‐anedig sef pob cyntaf a agoro'r groth o feibion Israel; am hynny y Lefiaid a fyddant eiddof fi:
13. Canys eiddof fi yw pob cyntaf‐anedig Ar y dydd y trewais y cyntaf‐anedig yn nhir yr Aifft, cysegrais i mi fy hun bob cyntaf‐anedig yn Israel o ddyn ac anifail: eiddof fi ydynt: myfi yw yr Arglwydd.
14. Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai, gan ddywedyd
15. Cyfrif feibion Lefi yn ôl tŷ eu tadau, trwy eu teuluoedd: cyfrif hwynt, bob gwryw, o fab misyriad ac uchod.