18. Ffynnon a gloddiodd y tywysogion, ac a gloddiodd penaethiaid y bobl, ynghyd â'r deddfwr, â'u ffyn. Ac o'r anialwch yr aethant i Mattana:
19. Ac o Mattana i Nahaliel; ac o Nahaliel i Bamoth:
20. Ac o Bamoth, yn y dyffryn sydd yng ngwlad Moab, i ben y bryn sydd yn edrych tua'r diffeithwch.
21. Yna yr anfonodd Israel genhadau at Sehon brenin yr Amoriaid, gan ddywedyd,
22. Gad i mi fyned trwy dy dir: ni thrown i faes, na gwinllan; nid yfwn ddwfr un ffynnon: ar hyd ffordd y brenin y cerddwn, hyd onid elom allan o'th derfynau di.
23. Ac ni roddodd Sehon i Israel ffordd trwy ei wlad: ond casglodd Sehon ei holl bobl, ac a aeth allan yn erbyn Israel i'r anialwch: ac efe a ddaeth i Jahas, ac a ymladdodd yn erbyn Israel.
24. Ac Israel a'i trawodd ef â min y cleddyf; ac a oresgynnodd ei dir ef, o Arnon hyd Jabboc, hyd at feibion Ammon: canys cadarn oedd terfyn meibion Ammon.