1. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2. Llefara wrth feibion Israel, a chymer gan bob un ohonynt wialen, yn ôl tŷ eu tadau, sef gan bob un o'u penaethiaid, yn ôl tŷ eu tadau, deuddeg gwialen: ysgrifenna enw pob un ar ei wialen.
3. Ac ysgrifenna enw Aaron ar wialen Lefi: canys un wialen fydd dros bob pennaeth tŷ eu tadau.
4. A gad hwynt ym mhabell y cyfarfod, gerbron y dystiolaeth, lle y cyfarfyddaf â chwi.
5. A gwialen y gŵr a ddewiswyf, a flodeua: a mi a wnaf i furmur meibion Israel, y rhai y maent yn ei furmur i'ch erbyn, beidio â mi.
6. A llefarodd Moses wrth feibion Israel: a'u holl benaethiaid a roddasant ato wialen dros bob pennaeth, yn ôl tŷ eu tadau, sef deuddeg gwialen; a gwialen Aaron oedd ymysg eu gwiail hwynt.
7. A Moses a adawodd y gwiail gerbron yr Arglwydd, ym mhabell y dystiolaeth.
8. A thrannoeth y daeth Moses i babell y dystiolaeth: ac wele, gwialen Aaron dros dŷ Lefi a flagurasai, ac a fwriasai flagur, ac a flodeuasai flodau, ac a ddyg asai almonau.
9. A dug Moses allan yr holl wiail oddi gerbron yr Arglwydd at holl feibion Israel. Hwythau a edrychasant, ac a gymerasant bob un ei wialen ei hun.