9. Ond os dychwelwch ataf fi, a chadw fy ngorchmynion, a'u gwneuthur hwynt; pe gyrrid rhai ohonoch chwi hyd eithaf y nefoedd, eto mi a'u casglaf hwynt oddi yno, ac a'u dygaf i'r lle a etholais i drigo o'm henw ynddo.
10. A hwy ydynt dy weision a'th bobl, y rhai a waredaist â'th fawr allu, ac â'th law nerthol.
11. Atolwg, Arglwydd, bydded yn awr dy glust yn gwrando ar weddi dy was, ac ar weddi dy weision y rhai sydd yn ewyllysio ofni dy enw: llwydda hefyd, atolwg, dy was heddiw, a chaniatâ iddo gael trugaredd gerbron y gŵr hwn. Canys myfi oedd drulliad i'r brenin.