1. Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Micha y Morasthiad yn nyddiau Jotham, Ahas, a Heseceia, brenhinoedd Jwda, yr hwn a welodd efe am Samaria a Jerwsalem.
2. Gwrandewch, bobl oll; clyw dithau, y ddaear, ac sydd ynddi; a bydded yr Arglwydd Dduw yn dyst i'ch erbyn, yr Arglwydd o'i deml sanctaidd.
3. Canys wele yr Arglwydd yn dyfod o'i le; efe hefyd a ddisgyn, ac a sathr ar uchelderau y ddaear.
4. A'r mynyddoedd a doddant tano ef, a'r glynnoedd a ymholltant fel cwyr o flaen y tân, ac fel y dyfroedd a dywelltir ar y goriwaered.
5. Hyn i gyd sydd am anwiredd Jacob, ac am bechodau tŷ Israel. Beth yw anwiredd Jacob? onid Samaria? Pa rai yw uchel leoedd Jwda? onid Jerwsalem?
6. Am hynny y gosodaf Samaria yn garneddfaes dda i blannu gwinllan; a gwnaf i'w cherrig dreiglo i'r dyffryn, a datguddiaf ei sylfeini.
7. A'i holl ddelwau cerfiedig a gurir yn ddrylliau, a'i holl wobrau a losgir yn tân, a'i holl eilunod a osodaf yn anrheithiedig: oherwydd o wobr putain y casglodd hi hwynt, ac yn wobr putain y dychwelant.
8. Oherwydd hyn galaraf ac udaf; cerddaf yn noeth ac yn llwm: gwnaf alar fel dreigiau, a gofid fel cywion y dylluan.
9. Oherwydd dolurus yw ei harcholl: canys daeth hyd at Jwda; daeth hyd borth fy mhobl, hyd Jerwsalem.
10. Na fynegwch hyn yn Gath; gan wylo nac wylwch ddim: ymdreigla mewn llwch yn nhŷ Affra.
11. Dos heibio, preswylferch Saffir, yn noeth dy warth: ni ddaeth preswylferch Saanan allan yng ngalar Beth-esel, efe a dderbyn gennych ei sefyllfan.
12. Canys trigferch Maroth a ddisgwyliodd yn ddyfal am ddaioni; eithr drwg a ddisgynnodd oddi wrth yr Arglwydd hyd at borth Jerwsalem.
13. Preswylferch Lachis, rhwym y cerbyd wrth y buanfarch: dechreuad pechod yw hi i ferch Seion: canys ynot ti y cafwyd anwireddau Israel.