32. A mi a ddinistriaf y tir; fel y byddo aruthr gan eich gelynion, y rhai a drigant ynddo, o'i herwydd.
33. Chwithau a wasgaraf ymysg y cenhedloedd, a gwnaf dynnu cleddyf ar eich ôl; a'ch tir fydd ddiffeithwch, a'ch dinasoedd yn anghyfannedd.
34. Yna y mwynha'r tir ei Sabothau yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffeithwch, a chwithau a fyddwch yn nhir eich gelynion; yna y gorffwys y tir, ac y mwynha ei Sabothau.
35. Yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffeithwch y gorffwys; oherwydd na orffwysodd ar eich Sabothau chwi, pan oeddech yn trigo ynddo.
36. A'r hyn a weddillir ohonoch, dygaf lesgedd ar eu calonnau yn nhir eu gelynion; a thrwst deilen yn ysgwyd a'u herlid hwynt; a ffoant fel ffoi rhag cleddyf; a syrthiant hefyd heb neb yn eu herlid.
37. A syrthiant bawb ar ei gilydd, megis o flaen cleddyf, heb neb yn eu herlid: ac ni ellwch sefyll o flaen eich gelynion.
38. Difethir chwi hefyd ymysg y cenhedloedd, a thir eich gelynion a'ch bwyty.
39. A'r rhai a weddillir ohonoch, a doddant yn eu hanwireddau yn nhir eich gelynion; ac yn anwireddau eu tadau gyda hwynt y toddant.
40. Os cyffesant eu hanwiredd, ac anwiredd eu tadau, ynghyd â'u camwedd yr hwn a wnaethant i'm herbyn, a hefyd rhodio ohonynt yn y gwrthwyneb i mi;
41. A rhodio ohonof finnau yn eu gwrthwyneb hwythau, a'u dwyn hwynt i dir eu gelynion; os yno yr ymostwng eu calon ddienwaededig, a'u bod yn fodlon am eu cosbedigaeth:
42. Minnau a gofiaf fy nghyfamod â Jacob, a'm cyfamod hefyd ag Isaac, a'm cyfamod hefyd ag Abraham a gofiaf; ac a gofiaf y tir hefyd.
43. A'r tir a adewir ganddynt, ac a fwynha ei Sabothau, tra fyddo yn ddiffeithwch hebddynt: a hwythau a fodlonir am eu cosbedigaeth; o achos ac oherwydd dirmygu ohonynt fy marnedigaethau, a ffieiddio o'u henaid fy neddfau.
44. Ac er hyn hefyd, pan fyddont yn nhir eu gelynion, nis gwrthodaf ac ni ffieiddiaf hwynt i'w difetha, gan dorri fy nghyfamod â hwynt: oherwydd myfi ydyw yr Arglwydd eu Duw hwynt.
45. Ond cofiaf er eu mwyn gyfamod y rhai gynt, y rhai a ddygais allan o dir yr Aifft yng ngolwg y cenhedloedd, i fod iddynt yn Dduw: myfi ydwyf yr Arglwydd.
46. Dyma'r deddfau, a'r barnedigaethau, a'r cyfreithiau, y rhai a roddodd yr Arglwydd rhyngddo ei hun a meibion Israel, ym mynydd Sinai, trwy law Moses.