21. Ac os rhodiwch yng ngwrthwyneb i mi, ac ni fynnwch wrando arnaf fi; mi a chwanegaf bla saith mwy arnoch yn ôl eich pechodau.
22. Ac anfonaf fwystfil y maes yn eich erbyn, ac efe a'ch gwna chwi yn ddi‐blant, ac a ddifetha eich anifeiliaid, ac a'ch lleiha chwi; a'ch ffyrdd a wneir yn anialwch.
23. Ac os wrth hyn ni chymerwch ddysg gennyf, ond rhodio yn y gwrthwyneb i mi;
24. Yna y rhodiaf finnau yn y gwrthwyneb i chwithau, a mi a'ch cosbaf chwi hefyd eto yn saith mwy am eich pechodau.
25. A dygaf arnoch gleddyf, yr hwn a ddial fy nghyfamod: a phan ymgasgloch i'ch dinasoedd, yna yr anfonaf haint i'ch mysg; a chwi a roddir yn llaw y gelyn.
26. A phan dorrwyf ffon eich bara, yna deg o wragedd a bobant eich bara mewn un ffwrn, ac a ddygant eich bara adref dan bwys: a chwi a fwytewch, ac ni'ch digonir chwi.
27. Ac os er hyn ni wrandewch arnaf, ond rhodio yng ngwrthwyneb i mi;
28. Minnau a rodiaf yng ngwrthwyneb i chwithau mewn llid; a myfi, ie myfi, a'ch cosbaf chwi eto saith mwy am eich pechodau.