14. Ond os chwi ni wrandewch arnaf, ac ni wnewch yr holl orchmynion hyn;
15. Os fy neddfau hefyd a ddirmygwch, ac os eich enaid a ffieiddia fy marnedigaethau, heb wneuthur fy holl orchmynion, ond torri fy nghyfamod;
16. Minnau hefyd a wnaf hyn i chwi: gosodaf yn oruchaf arnoch ddychryn, darfodedigaeth, a'r cryd poeth, y rhai a wna i'r llygaid ballu, ac a ofidiant eich eneidiau: a heuwch eich had yn ofer; canys eich gelynion a'i bwyty:
17. Ac a osodaf fy wyneb i'ch erbyn, a chwi a syrthiwch o flaen eich gelynion; a'ch caseion a feistrola arnoch; ffowch hefyd pan na byddo neb yn eich erlid.
18. Ac os er hyn ni wrandewch arnaf, yna y chwanegaf eich cosbi chwi saith mwy am eich pechodau.
19. A mi a dorraf falchder eich nerth chwi; a gwnaf eich nefoedd chwi fel haearn, a'ch tir chwi fel pres:
20. A'ch cryfder a dreulir yn ofer: canys eich tir ni rydd ei gynnyrch, a choed y tir ni roddant eu ffrwyth.
21. Ac os rhodiwch yng ngwrthwyneb i mi, ac ni fynnwch wrando arnaf fi; mi a chwanegaf bla saith mwy arnoch yn ôl eich pechodau.
22. Ac anfonaf fwystfil y maes yn eich erbyn, ac efe a'ch gwna chwi yn ddi‐blant, ac a ddifetha eich anifeiliaid, ac a'ch lleiha chwi; a'ch ffyrdd a wneir yn anialwch.
23. Ac os wrth hyn ni chymerwch ddysg gennyf, ond rhodio yn y gwrthwyneb i mi;
24. Yna y rhodiaf finnau yn y gwrthwyneb i chwithau, a mi a'ch cosbaf chwi hefyd eto yn saith mwy am eich pechodau.
25. A dygaf arnoch gleddyf, yr hwn a ddial fy nghyfamod: a phan ymgasgloch i'ch dinasoedd, yna yr anfonaf haint i'ch mysg; a chwi a roddir yn llaw y gelyn.
26. A phan dorrwyf ffon eich bara, yna deg o wragedd a bobant eich bara mewn un ffwrn, ac a ddygant eich bara adref dan bwys: a chwi a fwytewch, ac ni'ch digonir chwi.
27. Ac os er hyn ni wrandewch arnaf, ond rhodio yng ngwrthwyneb i mi;