1. Na wnewch eilunod i chwi, ac na chodwch i chwi ddelw gerfiedig, na cholofn, ac na roddwch ddelw faen yn eich tir i ymgrymu iddi: canys myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.
2. Fy Sabothau i a gedwch, a'm cysegr i a berchwch: myfi ydwyf yr Arglwydd.
3. Os yn fy neddfau i y rhodiwch, a'm gorchmynion a gedwch, a'u gwneuthur hwynt;
4. Yna mi a roddaf eich glaw yn ei amser, a rhydd y ddaear ei chynnyrch, a choed y maes a rydd eu ffrwyth.
5. A'ch dyrnu a gyrraedd hyd gynhaeaf y grawnwin, a chynhaeaf y grawnwin a gyrraedd hyd amser hau; a'ch bara a fwytewch yn ddigonol, ac yn eich tir y trigwch yn ddiogel.
6. Rhoddaf heddwch hefyd yn y tir, a gorweddwch hefyd heb ddychrynydd: a gwnaf i'r bwystfil niweidiol ddarfod o'r tir; ac nid â cleddyf trwy eich tir.
7. Eich gelynion hefyd a erlidiwch, a syrthiant o'ch blaen ar y cleddyf.
8. A phump ohonoch a erlidia gant, a chant ohonoch a erlidia ddengmil; a'ch gelynion a syrth o'ch blaen ar y cleddyf.
9. A mi a edrychaf amdanoch, ac a'ch gwnaf yn ffrwythlon, ac a'ch amlhaf, ac a gadarnhaf fy nghyfamod â chwi.
10. A'r hen ystôr a fwytewch, ie, yr hen a fwriwch chwi allan o achos y newydd.
11. Rhoddaf hefyd fy nhabernacl yn eich mysg; ac ni ffieiddia fy enaid chwi.
12. A mi a rodiaf yn eich plith; a byddaf yn Dduw i chwi, a chwithau a fyddwch yn bobl i mi.
13. Myfi yw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a'ch dygais chwi allan o dir yr Aifft, rhag eich bod yn gaethweision iddynt; a thorrais rwymau eich iau, a gwneuthum i chwi rodio yn sythion.