27. Na thalgrynnwch odre eich pen, ac na thor gyrrau dy farf.
28. Ac na wnewch doriadau yn eich cnawd am un marw, ac na roddwch brint nod arnoch: yr Arglwydd ydwyf fi.
29. Na haloga dy ferch, gan beri iddi buteinio: rhag puteinio'r tir, a llenwi'r wlad o ysgelerder.
30. Cedwch fy Sabothau, a pherchwch fy nghysegr: yr Arglwydd ydwyf fi.
31. Nac ewch ar ôl dewiniaid, ac nac ymofynnwch â'r brudwyr, i ymhalogi o'u plegid: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.
32. Cyfod gerbron penwynni, a pharcha wyneb henuriad; ac ofna dy Dduw: yr Arglwydd ydwyf fi.
33. A phan ymdeithio dieithrddyn ynghyd â thi yn eich gwlad, na flinwch ef.
34. Bydded y dieithr i chwi, yr hwn a ymdeithio yn eich plith, fel yr un a hanffo ohonoch, a châr ef fel ti dy hun; oherwydd dieithriaid fuoch yng ngwlad yr Aifft: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.
35. Na wnewch gam ar farn, ar lathen, ar bwys, nac ar fesur.
36. Bydded i chwi gloriannau cyfiawn, gerrig cyfiawn, effa gyfiawn, a hin gyfiawn: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi, yr hwn a'ch dygais allan o dir yr Aifft.
37. Cedwch chwithau fy holl ddeddfau, a'm holl farnedigaethau, a gwnewch hwynt: yr Arglwydd ydwyf fi.