14. A'r wythfed dydd cymered iddo ddwy durtur, neu ddau gyw colomen, a deued gerbron yr Arglwydd, i ddrws pabell y cyfarfod, a rhodded hwynt i'r offeiriad.
15. Ac offrymed yr offeiriad hwynt, un yn bech‐aberth, a'r llall yn boethoffrwm: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto ef am ei ddiferlif, gerbron yr Arglwydd.
16. Ac os gŵr a ddaw oddi wrtho ddisgyniad had; yna golched ei holl gnawd mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.
17. A phob dilledyn, a phob croen, y byddo disgyniad had arno, a olchir mewn dwfr, ac a fydd aflan hyd yr hwyr.
18. A'r wraig y cysgo gŵr mewn disgyniad had gyda hi; ymolchant mewn dwfr, a byddant aflan hyd yr hwyr ill dau.
19. A phan fyddo gwraig â diferlif arni, a bod ei diferlif yn ei chnawd yn waed; bydded saith niwrnod yn ei gwahaniaeth: a phwy bynnag a gyffyrddo â hi, bydd aflan hyd yr hwyr.
20. A'r hyn oll y gorweddo hi arno yn ei gwahaniaeth, fydd aflan; a'r hyn oll yr eisteddo hi arno, a fydd aflan.
21. A phwy bynnag a gyffyrddo â'i gwely hi, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.
22. A phwy bynnag a gyffyrddo â dim yr eisteddodd hi arno, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.
23. Ac os ar y gwely y bydd efe, neu ar ddim y byddo hi yn eistedd arno, wrth gyffwrdd ag ef; hyd yr hwyr y bydd efe aflan.
24. Ond os gŵr gan gysgu a gwsg gyda hi, fel y byddo o'i misglwyf hi arno ef; aflan fydd efe saith niwrnod, ac aflan fydd yr holl wely y gorwedd efe arno.
25. A phan fyddo diferlif ei gwaed yn rhedeg ar wraig lawer o ddyddiau, allan o amser ei hanhwyl, neu pan redo diferlif arni ar ôl ei hanhwyl; bydded holl ddyddiau diferlif ei haflendid hi megis dyddiau ei gwahaniaeth: aflan fydd hi.