9. O randir meibion Jwda yr oedd etifeddiaeth meibion Simeon: canys rhan meibion Jwda oedd ormod iddynt; am hynny meibion Simeon a gawsant eu hetifeddiaeth o fewn eu hetifeddiaeth hwynt.
10. A'r trydydd coelbren a ddaeth i fyny dros feibion Sabulon, yn ôl eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd hyd Sarid.
11. A'u terfyn hwynt sydd yn myned i fyny tua'r môr, a Marala, ac yn cyrhaeddyd i Dabbaseth; ac yn cyrhaeddyd i'r afon sydd ar gyfer Jocneam;
12. Ac yn troi o Sarid, o du y dwyrain tua chyfodiad haul, hyd derfyn Cisloth‐Tabor; ac yn myned i Daberath, ac yn esgyn i Jaffia;
13. Ac yn myned oddi yno ymlaen tua'r dwyrain, i Gittah‐Heffer, i Ittah‐Casin; ac yn myned allan i Rimmon‐Methoar, i Nea.
14. A'r terfyn sydd yn amgylchu o du y gogledd i Hannathon; a'i ddiweddiad yng nglyn Jifftahel.
15. Cattath hefyd, a Nahalal, a Simron, ac Idala, a Bethlehem: deuddeg o ddinasoedd, a'u pentrefydd.
16. Dyma etifeddiaeth meibion Sabulon, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd yma, a'u pentrefydd.
17. Y pedwerydd coelbren a ddaeth allan dros Issachar; dros feibion Issachar, yn ôl eu teuluoedd.
18. A'u terfyn hwynt oedd tua Jesreel, a Chesuloth, a Sunem.
19. A Haffraim, a Sihon, ac Anaharath.
20. A Rabbith, a Cision, ac Abes,
21. A Remeth, ac En‐gannim, ac Enhada, a Beth‐passes.
22. A'r terfyn sydd yn cyrhaeddyd i Tabor, a Sahasima, a Beth‐semes; a'u cyrrau eithaf hwynt yw yr Iorddonen: un ddinas ar bymtheg, a'u pentrefydd.
23. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Issachar, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd, a'u pentrefydd.
24. A'r pumed coelbren a ddaeth allan dros lwyth meibion Aser, yn ôl eu teuluoedd.
25. A'u terfyn hwynt oedd, Helcath, a Hali, a Beten, ac Achsaff,
26. Ac Alammelech, ac Amad, a Misal; ac yn cyrhaeddyd i Carmel tua'r gorllewin, ac i Sihor‐Libnath: