23. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Issachar, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd, a'u pentrefydd.
24. A'r pumed coelbren a ddaeth allan dros lwyth meibion Aser, yn ôl eu teuluoedd.
25. A'u terfyn hwynt oedd, Helcath, a Hali, a Beten, ac Achsaff,
26. Ac Alammelech, ac Amad, a Misal; ac yn cyrhaeddyd i Carmel tua'r gorllewin, ac i Sihor‐Libnath:
27. Ac yn troi tua chyfodiad haul i Beth‐dagon, ac yn cyrhaeddyd i Sabulon, ac i ddyffryn Jifftahel, tua'r gogledd i Beth‐Emec, ac i Neiel, ac yn myned ar y llaw aswy i Cabul;
28. A Hebron, a Rehob, a Hammon, a Cana, hyd Sidon fawr.
29. A'r terfyn sydd yn troi i Rama, ac hyd Sor, y ddinas gadarn: a'r terfyn sydd yn troi i Hosa; a'i gyrrau eithaf sydd wrth y môr, o randir Achsib.
30. Umma hefyd, ac Affec, a Rehob: dwy ddinas ar hugain, a'u pentrefydd.
31. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Aser, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd hyn a'u pentrefydd.
32. Y chweched coelbren a ddaeth allan i feibion Nafftali, dros feibion Nafftali, yn ôl eu teuluoedd.
33. A'u terfyn hwy oedd o Heleff, o Alon i Saanannim, ac Adami, Neceb, a Jabneel hyd Lacum: a'i gyrrau eithaf oedd wrth yr Iorddonen.
34. A'r terfyn sydd yn troi tua'r gorllewin i Asnoth‐Tabor, ac yn myned oddi yno i Huccoc; ac yn cyrhaeddyd i Sabulon o du y deau, ac yn cyrhaeddyd i Aser o du y gorllewin, ac i Jwda a'r Iorddonen tua chyfodiad haul.
35. A'r dinasoedd caerog, Sidim, Ser, a Hammath, Raccath, a Chinnereth,
36. Ac Adama, a Rama, a Hasor,
37. A Cedes, ac Edrei, ac En‐hasor,
38. Ac Iron, a Migdal‐el, Horem, a Beth‐anath, a Beth‐semes: pedair dinas ar bymtheg, a'u pentrefydd.