8. Canys efe a deflir i'r rhwyd erbyn ei draed, ac ar faglau y rhodia efe.
9. Magl a ymeifl yn ei sawdl ef, a'r gwylliad fydd drech nag ef.
10. Hoenyn a guddied iddo ef yn y ddaear, a magl iddo ar y llwybr.
11. Braw a'i brawycha ef o amgylch, ac a'i gyr i gymryd ei draed.
12. Ei gryfder fydd newynllyd, a dinistr fydd parod wrth ei ystlys.
13. Efe a ysa gryfder ei groen ef: cyntaf‐anedig angau a fwyty ei gryfder ef.
14. Ei hyder ef a dynnir allan o'i luesty: a hynny a'i harwain ef at frenin dychryniadau.
15. Efe a drig yn ei luest ef, am nad eiddo ef ydyw: brwmstan a wasgerir ar ei drigfa ef.
16. Ei wraidd a sychant oddi tanodd, a'i frig a dorrir oddi arnodd.
17. Ei goffadwriaeth a gollir o'r ddaear, ac ni bydd enw iddo ar wyneb yr heol.
18. Efe a yrrir allan o oleuni i dywyllwch: efe a ymlidir allan o'r byd.
19. Ni bydd iddo fab nac ŵyr ymysg ei bobl; nac un wedi ei adael yn ei drigfannau ef.