14. Y mae yn fy rhwygo â rhwygiad ar rwygiad: y mae efe yn rhedeg arnaf fel cawr.
15. Gwnïais sachlen ar fy nghroen, a halogais fy nghorn yn y llwch.
16. Fy wyneb sydd fudr gan wylo, a chysgod marwolaeth sydd ar fy amrantau:
17. Er nad oes gamwedd yn fy nwylo; a bod fy ngweddi yn bur.
18. O ddaearen, na orchuddia fy ngwaed, ac na fydded lle i'm gwaedd.
19. Wele hefyd yn awr fy nhyst yn y nefoedd; a'm tystiolaeth yn yr uchelder.
20. Fy nghyfeillion sydd yn fy ngwawdio: fy llygad a ddiferodd ddagrau wrth Dduw.
21. O na châi un ymddadlau â Duw dros ddyn, fel mab dyn dros ei gymydog!
22. Canys pan ddêl ychydig flynyddoedd, yna mi a rodiaf lwybr ar hyd yr hwn ni ddychwelaf.