11. Ai yn lloches lladron yr aeth y tŷ yma, ar yr hwn y gelwir fy enw i, gerbron eich llygaid? wele, minnau a welais hyn, medd yr Arglwydd.
12. Eithr, atolwg, ewch i'm lle, yr hwn a fu yn Seilo, lle y gosodais fy enw ar y cyntaf, ac edrychwch beth a wneuthum i hwnnw, oherwydd anwiredd fy mhobl Israel.
13. Ac yn awr, am wneuthur ohonoch yr holl weithredoedd hyn, medd yr Arglwydd, minnau a leferais wrthych, gan godi yn fore, a llefaru, eto ni chlywsoch; a gelwais arnoch, ond nid atebasoch:
14. Am hynny y gwnaf i'r tŷ hwn y gelwir fy enw arno, yr hwn yr ydych yn ymddiried ynddo, ac i'r lle a roddais i chwi ac i'ch tadau, megis y gwneuthum i Seilo.
15. A mi a'ch taflaf allan o'm golwg, fel y teflais eich holl frodyr, sef holl had Effraim.
16. Am hynny na weddïa dros y bobl hyn, ac na ddyrchafa waedd na gweddi drostynt, ac nac eiriol arnaf: canys ni'th wrandawaf.
17. Oni weli di beth y maent hwy yn ei wneuthur yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem?
18. Y plant sydd yn casglu cynnud, a'r tadau yn cynnau tân, a'r gwragedd yn tylino toes, i wneuthur teisennau i frenhines y nef, ac i dywallt diod‐offrymau i dduwiau dieithr, i'm digio i.
19. Ai fi y maent hwy yn ei ddigio? medd yr Arglwydd: ai hwynt eu hun, er cywilydd i'w hwynebau eu hun?
20. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele, fy llid a'm digofaint a dywelltir ar y man yma, ar ddyn ac ar anifail, ar goed y maes, ac ar ffrwyth y ddaear; ac efe a lysg, ac nis diffoddir.
21. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Rhoddwch eich poethoffrymau at eich aberthau, a bwytewch gig.
22. Canys ni ddywedais i wrth eich tadau, ac ni orchmynnais iddynt, y dydd y dygais hwynt o dir yr Aifft, am boethoffrymau neu aberthau:
23. Eithr y peth hyn a orchmynnais iddynt, gan ddywedyd, Gwrandewch ar fy llef, a mi a fyddaf Dduw i chwi, a chwithau fyddwch yn bobl i minnau; a rhodiwch yn yr holl ffyrdd a orchmynnais i chwi, fel y byddo yn ddaionus i chwi.
24. Eithr ni wrandawsant, ac ni ostyngasant eu clust, ond rhodiasant yn ôl cynghorion a childynrwydd eu calon ddrygionus, ac aethant yn ôl, ac nid ymlaen.
25. O'r dydd y daeth eich tadau chwi allan o wlad yr Aifft hyd y dydd hwn, mi a ddanfonais atoch fy holl wasanaethwyr y proffwydi, bob dydd gan foregodi, ac anfon: