7. Y llew a ddaeth i fyny o'i loches, a difethwr y Cenhedloedd a gychwynnodd, ac a aeth allan o'i drigle, i wneuthur dy dir yn orwag; a'th ddinasoedd a ddinistrir heb drigiannydd.
8. Am hyn ymwregyswch â lliain sach; galerwch ac udwch: canys angerdd llid yr Arglwydd ni throes oddi wrthym ni.
9. Ac yn y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, y derfydd am galon y brenin, ac am galon y penaethiaid: yr offeiriaid hefyd a synnant, a'r proffwydi a ryfeddant.
10. Yna y dywedais, O Arglwydd Dduw, yn sicr gan dwyllo ti a dwyllaist y bobl yma a Jerwsalem, gan ddywedyd, Bydd heddwch i chwi; ac eto fe ddaeth y cleddyf hyd at yr enaid.
11. Yn yr amser hwnnw y dywedir wrth y bobl hyn, ac wrth Jerwsalem, Gwynt sych yr uchel leoedd yn y diffeithwch tua merch fy mhobl, nid i nithio, ac nid i buro;
12. Gwynt llawn o'r lleoedd hynny a ddaw ataf fi: weithian hefyd myfi a draethaf farn yn eu herbyn hwy.
13. Wele, megis cymylau y daw i fyny, a'i gerbydau megis corwynt: ei feirch sydd ysgafnach na'r eryrod. Gwae nyni! canys ni a anrheithiwyd.
14. O Jerwsalem, golch dy galon oddi wrth ddrygioni, fel y byddech gadwedig: pa hyd y lletyi o'th fewn goeg amcanion?
15. Canys llef sydd yn mynegi allan o Dan, ac yn cyhoeddi cystudd allan o fynydd Effraim.
16. Coffewch i'r cenhedloedd, wele, cyhoeddwch yn erbyn Jerwsalem, ddyfod gwylwyr o wlad bell, a llefaru yn erbyn dinasoedd Jwda.
17. Megis ceidwaid maes y maent o amgylch yn ei herbyn; am iddi fy niclloni, medd yr Arglwydd.
18. Dy ffordd di a'th amcanion a wnaethant hyn i ti: dyma dy ddrygioni di; am ei fod yn chwerw, am ei fod yn cyrhaeddyd hyd at dy galon di.
19. Fy mol, fy mol; gofidus wyf o barwydennau fy nghalon; mae fy nghalon yn terfysgu ynof: ni allaf dewi, am i ti glywed sain yr utgorn, O fy enaid, a gwaedd rhyfel.
20. Dinistr ar ddinistr a gyhoeddwyd; canys yr holl dir a anrheithiwyd: yn ddisymwth y distrywiwyd fy lluestai i, a'm cortenni yn ddiatreg.