1. Israel, os dychweli, dychwel ataf fi, medd yr Arglwydd: hefyd os rhoi heibio dy ffieidd‐dra oddi ger fy mron, yna ni'th symudir.
2. A thi a dyngi, Byw yw yr Arglwydd, mewn gwirionedd, mewn barn, ac mewn cyfiawnder: a'r cenhedloedd a ymfendithiant ynddo; ie, ynddo ef yr ymglodforant.
3. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth wŷr Jwda, ac wrth Jerwsalem: Braenerwch i chwi fraenar, ac na heuwch mewn drain.
4. Ymenwaedwch i'r Arglwydd, a rhoddwch heibio ddienwaediad eich calon, chwi gwŷr Jwda, a thrigolion Jerwsalem: rhag i'm digofaint ddyfod allan fel tân, a llosgi fel na byddo diffoddydd, oherwydd drygioni eich amcanion.
5. Mynegwch yn Jwda, a chyhoeddwch yn Jerwsalem, a dywedwch, Utgenwch utgorn yn y tir: gwaeddwch, ymgesglwch, a dywedwch, Ymgynullwch, ac awn i'r dinasoedd caerog.
6. Codwch faner tua Seion; ffowch, ac na sefwch; canys mi a ddygaf ddrwg o'r gogledd, a dinistr mawr.
7. Y llew a ddaeth i fyny o'i loches, a difethwr y Cenhedloedd a gychwynnodd, ac a aeth allan o'i drigle, i wneuthur dy dir yn orwag; a'th ddinasoedd a ddinistrir heb drigiannydd.
8. Am hyn ymwregyswch â lliain sach; galerwch ac udwch: canys angerdd llid yr Arglwydd ni throes oddi wrthym ni.