1. Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, pan oedd Nebuchodonosor brenin Babilon, a'i holl lu, a holl deyrnasoedd y ddaear y rhai oedd dan lywodraeth ei law ef, a'r holl bobloedd, yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem, ac yn erbyn ei holl ddinasoedd hi, gan ddywedyd,
2. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel; Dos, a llefara wrth Sedeceia brenin Jwda, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele fi yn rhoddi y ddinas hon i law brenin Babilon, ac efe a'i llysg hi â thân:
3. Ac ni ddihengi dithau o'i law ef, canys diau y'th ddelir, ac y'th roddir i'w law ef; a'th lygaid di a gânt weled llygaid brenin Babilon, a'i enau ef a ymddiddan â'th enau di, a thithau a ei i Babilon.
4. Er hynny, O Sedeceia brenin Jwda, gwrando air yr Arglwydd; Fel hyn y dywed yr Arglwydd amdanat ti, Ni byddi di farw trwy y cleddyf:
5. Mewn heddwch y byddi farw: a hwy a losgant beraroglau i ti, fel y llosgwyd i'th dadau, y brenhinoedd gynt, y rhai a fu o'th flaen di: a hwy a alarant amdanat ti, gan ddywedyd, O arglwydd! canys myfi a ddywedais y gair, medd yr Arglwydd.
6. Yna Jeremeia y proffwyd a lefarodd wrth Sedeceia brenin Jwda yr holl eiriau hyn yn Jerwsalem,
7. Pan oedd llu brenin Babilon yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem, ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda y rhai a adawsid, yn erbyn Lachis, ac yn erbyn Aseca: canys y dinasoedd caerog hyn a adawsid o ddinasoedd Jwda.