12. Ac mi a leferais wrth Sedeceia brenin Jwda yn ôl yr holl eiriau hyn, gan ddywedyd, Rhoddwch eich gwarrau dan iau brenin Babilon, a gwasanaethwch ef a'i bobl, fel y byddoch byw.
13. Paham y byddwch feirw, ti a'th bobl, trwy y cleddyf, trwy newyn, a thrwy haint, fel y dywedodd yr Arglwydd yn erbyn y genedl ni wasanaethai frenin Babilon?
14. Am hynny na wrandewch ar eiriau y proffwydi y rhai a lefarant wrthych, gan ddywedyd, Nid rhaid i chwi wasanaethu brenin Babilon: canys y maent yn proffwydo celwydd i chwi.
15. Oherwydd nid myfi a'u hanfonodd hwynt, medd yr Arglwydd; er hynny hwy a broffwydant yn fy enw ar gelwydd, fel y gyrrwn chwi ymaith, ac y darfyddai amdanoch chwi, a'r proffwydi sydd yn proffwydo i chwi.
16. Myfi a leferais hefyd wrth yr offeiriaid, a'r holl bobl hyn, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Na wrandewch ar eiriau eich proffwydi, y rhai sydd yn proffwydo i chwi, gan ddywedyd, Wele, llestri tŷ yr Arglwydd a ddygir yn eu hôl o Babilon bellach ar frys; canys celwydd y maent yn ei broffwydo i chwi.
17. Na wrandewch arnynt; gwasanaethwch chwi frenin Babilon, a byddwch fyw: paham y byddai y ddinas hon yn ddiffeithwch?
18. Ond os proffwydi ydynt hwy, ac od ydyw gair yr Arglwydd gyda hwynt, eiriolant yr awr hon ar Arglwydd y lluoedd, nad elo y llestri a adawyd yn nhŷ yr Arglwydd, ac yn nhŷ brenin Jwda, ac yn Jerwsalem, i Babilon.
19. Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, am y colofnau, ac am y môr, ac am yr ystolion, ac am y rhan arall o'r llestri a adawyd yn y ddinas hon,
20. Y rhai ni ddug Nebuchodonosor brenin Babilon ymaith, pan gaethgludodd efe Jechoneia, mab Jehoiacim brenin Jwda, o Jerwsalem i Babilon, a holl bendefigion Jwda a Jerwsalem;
21. Ie, fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, am y llestri a adawyd yn nhŷ yr Arglwydd, ac yn nhŷ brenin Jwda a Jerwsalem;
22. Hwy a ddygir i Babilon, ac yno y byddant hyd y dydd yr ymwelwyf â hwynt, medd yr Arglwydd: yna y dygaf hwynt i fyny, ac y dychwelaf hwynt i'r lle hwn.