1. A Duw a ddywedodd wrth Jacob, Cyfod, esgyn i Bethel, a thrig yno; a gwna yno allor i Dduw, yr hwn a ymddangosodd i ti pan ffoaist o ŵydd Esau dy frawd.
2. Yna Jacob a ddywedodd wrth ei deulu, ac wrth y rhai oll oedd gydag ef, Bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich plith chwi, ac ymlanhewch, a newidiwch eich dillad;
3. A chyfodwn, ac esgynnwn i Bethel: ac yno y gwnaf allor i Dduw, yr hwn a'm gwrandawodd yn nydd fy nghyfyngder, ac a fu gyda myfi yn y ffordd a gerddais.
4. A hwy a roddasant at Jacob yr holl dduwiau dieithr y rhai oedd yn eu llaw hwynt, a'r clustlysau oedd yn eu clustiau: a Jacob a'u cuddiodd hwynt dan y dderwen oedd yn ymyl Sichem.
5. A hwy a gychwynasant: ac ofn Duw oedd ar y dinasoedd y rhai oedd o'u hamgylch hwynt, ac nid erlidiasant ar ôl meibion Jacob.
6. A Jacob a ddaeth i Lus, yng ngwlad Canaan, hon yw Bethel, efe a'r holl bobl y rhai oedd gydag ef;
7. Ac a adeiladodd yno allor, ac a enwodd y lle El‐bethel, oblegid yno yr ymddangosasai Duw iddo ef, pan ffoesai efe o ŵydd ei frawd.
8. A marw a wnaeth Debora mamaeth Rebeca; a hi a gladdwyd islaw Bethel, dan dderwen: a galwyd enw honno Alhon‐bacuth.
9. Hefyd Duw a ymddangosodd eilwaith i Jacob, pan ddaeth efe o Mesopotamia; ac a'i bendithiodd ef.
10. A Duw a ddywedodd wrtho, Dy enw di yw Jacob: ni elwir dy enw di Jacob mwy, ond Israel a fydd dy enw di: ac efe a alwodd ei enw ef Israel.
11. Hefyd Duw a ddywedodd wrtho, Myfi yw Duw Hollalluog: cynydda, ac amlha; cenedl a chynulleidfa cenhedloedd a fydd ohonot ti; a brenhinoedd a ddaw allan o'th lwynau di.
12. A'r wlad yr hon a roddais i Abraham, ac i Isaac, a roddaf i ti, ac i'th had ar dy ôl di y rhoddaf y wlad.