5. Ac Abraham oedd fab can mlwydd, pan anwyd iddo ef Isaac ei fab.
6. A Sara a ddywedodd, Gwnaeth Duw i mi chwerthin; pob un a glywo a chwardd gyda mi.
7. Hi a ddywedodd hefyd, Pwy a ddywedasai i Abraham y rhoesai Sara sugn i blant? canys mi a esgorais ar fab yn ei henaint ef.
8. A'r bachgen a gynyddodd, ac a ddiddyfnwyd: ac Abraham a wnaeth wledd fawr ar y dydd y diddyfnwyd Isaac.
9. A Sara a welodd fab Agar yr Eifftes, yr hwn a ddygasai hi i Abraham, yn gwatwar.
10. A hi a ddywedodd wrth Abraham, Bwrw allan y gaethforwyn hon a'i mab; oherwydd ni chaiff mab y gaethes hon gydetifeddu â'm mab i Isaac.
11. A'r peth hyn fu ddrwg iawn yng ngolwg Abraham, er mwyn ei fab.
12. A Duw a ddywedodd wrth Abraham, Na fydded drwg yn dy olwg am y llanc, nac am dy gaethforwyn; yr hyn oll a ddywedodd Sara wrthyt, gwrando ar ei llais: oherwydd yn Isaac y gelwir i ti had.
13. Ac am fab y forwyn gaeth hefyd, mi a'i gwnaf ef yn genhedlaeth, oherwydd dy had di ydyw ef.
14. Yna y cododd Abraham yn fore, ac a gymerodd fara, a chostrel o ddwfr, ac a'i rhoddes at Agar, gan osod ar ei hysgwydd hi hynny, a'r bachgen hefyd, ac efe a'i gollyngodd hi ymaith: a hi a aeth, ac a grwydrodd yn anialwch Beer‐seba.
15. A darfu'r dwfr yn y gostrel; a hi a fwriodd y bachgen dan un o'r gwŷdd.
16. A hi a aeth, ac a eisteddodd ei hunan ymhell ar ei gyfer, megis ergyd bwa: canys dywedasai, Ni allaf fi edrych ar y bachgen yn marw. Felly hi a eisteddodd ar ei gyfer, ac a ddyrchafodd ei llef, ac a wylodd.
17. A Duw a wrandawodd ar lais y llanc; ac angel Duw a alwodd ar Agar o'r nefoedd, ac a ddywedodd wrthi, Beth a ddarfu i ti, Agar? nac ofna, oherwydd Duw a wrandawodd ar lais y llanc lle y mae efe.
18. Cyfod, cymer y llanc, ac ymafael ynddo â'th law; oblegid myfi a'i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr.