10. Meibion Bani, chwe chant a dau a deugain.
11. Meibion Bebai, chwe chant a thri ar hugain.
12. Meibion Asgad, mil dau cant a dau ar hugain.
13. Meibion Adonicam, chwe chant a chwech a thrigain.
14. Meibion Bigfai, dwy fil ac onid pedwar trigain.
15. Meibion Adin, pedwar cant a phedwar ar ddeg a deugain.
16. Meibion Ater o Heseceia, onid dau pum ugain.
17. Meibion Besai, tri chant a thri ar hugain.
18. Meibion Jora, cant a deuddeg.
19. Meibion Hasum, dau cant a thri ar hugain.
20. Meibion Gibbar, pymtheg a phedwar ugain.
21. Meibion Bethlehem, cant a thri ar hugain.
22. Gwŷr Netoffa, onid pedwar trigain.
23. Gwŷr Anathoth, cant ac wyth ar hugain.
24. Meibion Asmafeth, dau a deugain.
25. Meibion Ciriath‐arim, Ceffira, a Beeroth, saith gant a thri a deugain.
26. Meibion Rama a Gaba, chwe chant ac un ar hugain.
27. Gwŷr Michmas, cant a dau ar hugain.