1. Ac yn awr gwrando, Jacob fy ngwas, ac Israel yr hwn a ddewisais.
2. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, yr hwn a'th wnaeth, ac a'th luniodd o'r groth, efe a'th gynorthwya: Nac ofna, fy ngwas Jacob; a thi, Jeswrwn, yr hwn a ddewisais.
3. Canys tywalltaf ddyfroedd ar y sychedig, a ffrydiau ar y sychdir: tywalltaf fy Ysbryd ar dy had, a'm bendith ar dy hiliogaeth:
4. A hwy a dyfant megis ymysg glaswellt, fel helyg wrth ffrydiau dyfroedd.
5. Hwn a ddywed, Eiddo yr Arglwydd ydwyf fi; a'r llall a'i geilw ei hun ar enw Jacob; ac arall a ysgrifenna â'i law, Eiddo yr Arglwydd ydwyf, ac a ymgyfenwa ar enw Israel.
6. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Brenin Israel, a'i Waredydd, Arglwydd y lluoedd; Myfi yw y cyntaf, diwethaf ydwyf fi hefyd; ac nid oes Duw ond myfi.
7. Pwy hefyd, fel fi, a eilw, a fynega, ac a esyd hyn yn drefnus i mi, er pan osodais yr hen bobl? neu mynegant iddynt y pethau sydd ar ddyfod, a'r pethau a ddaw.
8. Nac ofnwch, ac nac arswydwch; onid er hynny o amser y traethais i ti, ac y mynegais? a'm tystion ydych chwi. A oes Duw ond myfi? ie, nid oes Duw: nid adwaen i yr un.
9. Oferedd ydynt hwy oll y rhai a luniant ddelw gerfiedig; ni wna eu pethau dymunol lesâd: tystion ydynt iddynt eu hun, na welant, ac na wyddant; fel y byddo cywilydd arnynt.
10. Pwy a luniai dduw, neu a fwriai ddelw gerfiedig, heb wneuthur dim lles?
11. Wele, ei holl gyfeillion a gywilyddir, y seiri hefyd, o ddynion y maent: casgler hwynt oll, safant i fyny; eto hwy a ofnant, ac a gydgywilyddiant.
12. Y gof â'r efel a weithia yn y glo, ac a'i llunia â morthwylion, ac â nerth ei fraich y gweithia efe hi: newynog yw hefyd, a'i nerth a balla; nid yf ddwfr, ac y mae yn diffygio.
13. Y saer pren a estyn ei linyn; efe a'i llunia hi wrth linyn coch; efe a'i cymhwysa hi â bwyeill, ac a'i gweithia wrth gwmpas, ac a'i gwna ar ôl delw dyn, fel prydferthwch dyn, i aros mewn tŷ.
14. Efe a dyr iddo gedrwydd, ac a gymer y gypreswydden a'r dderwen, ac a ymegnïa ymysg prennau y coed; efe a blanna onnen, a'r glaw a'i maetha.