17. A bydd goleuni Israel yn dân, a'i Sanct ef yn fflam: ac efe a lysg, ac a ysa ei ddrain a'i fieri mewn un dydd:
18. Gogoniant ei goed hefyd, a'i ddoldir, a ysa efe, enaid a chorff: a byddant megis pan lesmeirio banerwr.
19. A phrennau gweddill ei goed ef a fyddant o rifedi, fel y rhifo plentyn hwynt.
20. A bydd yn y dydd hwnnw, na chwanega gweddill Israel, a'r rhai a ddihangodd o dŷ Jacob, ymgynnal mwyach ar yr hwn a'u trawodd; ond pwysant ar yr Arglwydd, Sanct Israel, mewn gwirionedd.
21. Y gweddill a ddychwel, sef gweddill Jacob, at y Duw cadarn.
22. Canys pe byddai dy bobl di Israel fel tywod y môr, gweddill ohonynt a ddychwel: darfodiad terfynedig a lifa drosodd mewn cyfiawnder.
23. Canys darfodedigaeth, a honno yn derfynedig, a wna Arglwydd Dduw y lluoedd yng nghanol yr holl dir.
24. Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd, Fy mhobl yr hwn a breswyli yn Seion, nac ofna rhag yr Asyriad: â gwialen y'th dery di, ac efe a gyfyd ei ffon i'th erbyn, yn ôl ffordd yr Aifft.
25. Canys eto ychydig bach, ac fe a dderfydd y llid, a'm digofaint yn eu dinistr hwy.
26. Ac Arglwydd y lluoedd a gyfyd ffrewyll yn ei erbyn ef, megis lladdfa Midian yng nghraig Oreb: ac fel y bu ei wialen ar y môr, felly y cyfyd efe hi yn ôl ffordd yr Aifft.
27. A bydd yn y dydd hwnnw, y symudir ei faich ef oddi ar dy ysgwydd di, a'i iau ef oddi ar dy war di; a dryllir yr iau, oherwydd yr eneiniad.
28. Daeth at Aiath, tramwyodd i Migron; ym Michmas y rhoddes ei ddodrefn i gadw.