1. Yn y bumed flwyddyn ar hugain o'n caethgludiad ni, yn nechrau y flwyddyn, ar y degfed dydd o'r mis, yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg wedi taro y ddinas, o fewn corff y dydd hwnnw y daeth llaw yr Arglwydd arnaf, ac a'm dug yno.
2. Yng ngweledigaethau Duw y dug efe fi i dir Israel, ac a'm gosododd ar fynydd uchel iawn, ac arno yr oedd megis adail dinas o du y deau.
3. Ac efe a'm dug yno: ac wele ŵr a'i welediad fel gwelediad pres, ac yn ei law linyn llin, a chorsen fesur: ac yr ydoedd efe yn sefyll yn y porth.
4. A dywedodd y gŵr wrthyf, Ha fab dyn, gwêl â'th lygaid, gwrando hefyd â'th glustiau, a gosod dy galon ar yr hyn oll a ddangoswyf i ti: oherwydd er mwyn dangos i ti hyn y'th ddygwyd yma: mynega i dŷ Israel yr hyn oll a weli.
5. Ac wele fur o'r tu allan i'r tŷ o amgylch ogylch: a chorsen fesur yn llaw y gŵr, yn chwe chufydd o hyd, wrth gufydd a dyrnfedd: ac efe a fesurodd led yr adeiladaeth yn un gorsen, a'r uchder yn un gorsen.
6. Ac efe a ddaeth i'r porth oedd â'i wyneb tua'r dwyrain, ac a ddringodd ar hyd ei risiau ef, ac a fesurodd riniog y porth yn un gorsen o led, a'r rhiniog arall yn un gorsen o led.
7. A phob ystafell oedd un gorsen o hyd, ac un gorsen o led: a phum cufydd oedd rhwng yr ystafelloedd: a rhiniog y porth, wrth gyntedd y porth o'r tu mewn, oedd un gorsen.
8. Efe a fesurodd hefyd gyntedd y porth oddi fewn, yn un gorsen.
9. Yna y mesurodd gyntedd y porth yn wyth gufydd, a'i byst yn ddau gufydd, a chyntedd y porth oedd o'r tu mewn.
10. Ac ystafelloedd y porth tua'r dwyrain oedd dair o'r tu yma, a thair o'r tu acw; un fesur oeddynt ill tair: ac un mesur oedd i'r pyst o'r tu yma ac o'r tu acw.
11. Ac efe a fesurodd led drws y porth yn ddeg cufydd, a hyd y porth yn dri chufydd ar ddeg.
12. A'r terfyn o flaen yr ystafelloedd oedd un cufydd o'r naill du, a'r terfyn o'r tu arall yn un cufydd; a'r ystafelloedd oedd chwe chufydd o'r tu yma, a chwe chufydd o'r tu acw.